Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Cais am Dystiolaeth: Ymchwiliad Undydd ar Ddeintyddiaeth yng Nghymru
 

 

 


Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor ar Ddeintyddiaeth yng Nghymru. Mae iechyd y geg yn rhan bwysig o iechyd a lles cyffredinol. Er bod pydredd dannedd a 'chlefydau'r deintgig' (clefydau periodontol) yn gyffredin iawn, maent yn gyflyrau y gellir eu hatal. Dylid canolbwyntio’n ddiwyro ar waith atal drwy wasanaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus, yn ogystal â rhoi mwy o ffocws ar benderfynyddion ehangach iechyd fel bod modd lleihau baich afiechydon deintyddol yng Nghymru.

Er gwaethaf y gwelliannau cyson yn iechyd y geg i blant yng Nghymru, mae oddeutu 7,000 o blant yn dal i gael tynnu eu dannedd o dan anaesthesia cyffredinol bob blwyddyn o ganlyniad i bydredd  dannedd. Mae'r sefyllfa'n dangos bod angen mwy o ymdrech ac ymdrech barhaus i leihau faint o siwgr sy’n cael ei fwyta, mwy o waith atal effeithiol yn y gymuned a gofal deintyddol sylfaenol er mwyn lleihau'r gwir alw am anaesthesia cyffredinol deintyddol. Amlygir hefyd bod angen datblygu llwybrau gofal priodol ac ystod ehangach o wasanaethau deintyddol, megis gwasanaethau tawelu ymwybodol, er mwyn lleihau’r defnydd diangen o anaesthesia cyffredinol mewn deintyddiaeth.

Rydym wedi strwythuro ein hymateb yn unol â Chlych Gorchwyl yr ymchwiliad.

 

1.    Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) y GIG (a elwir hefyd yn Ddiwygio'r Contract Deintyddol)

 

1.1.        Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Symud ymlaen i wella iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru. Roedd y ddogfen hon yn amlygu bod diwygio contract deintyddol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yn un o'r tair prif flaenoriaeth ar gyfer gofal deintyddol yng Nghymru. Yn fwy diweddar, cyhoeddwyd dogfen bolisi ar iechyd y geg, Ymateb gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg, Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i raglen ddiwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG.

 

1.2.        Pam mae angen diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG?

1.2.1.   Mae cyfyngiadau a sialensau system Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol bresennol y GIG yng Nghymru yn dra hysbys. Mae’r contract presennol yn ei gwneud yn ofynnaol i Unedau o Weithgaredd Deintyddol gael eu cyflawni, fel procsi ar gyfer cyfrif triniaethau deintyddol. Nid yw'r system bresennol yn darparu unrhyw ysgogiad i dimau deintyddol gyflwyno gofal ataliol nac i dderbyn cleifion a chanddynt anghenion mawr. Yr un yw’r tâl am ddarparu deg neu fwy o lenwadau â’r tâl am un llenwad. Mae pydredd dannedd a 'chlefydau'r deintgig' (clefydau periodontol) yn gyffredin iawn, ond yn gyflyrau cronig y gellir eu hatal. Mae canolbwyntio ar drin y clefydau heb waith atal yn ddefnydd aneffeithiol o adnoddau'r GIG. Dylai'r gwasanaethau deintyddol fabwysiadu egwyddorion rheoli clefydau cronig gyda phwyslais ar ofal cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolion a dylid cefnogi hunanreolaeth y cleifion drwy ddull cydgynhyrchiol. Mae angen i'r Byrddau Iechyd hefyd ddatblygu’r ffordd y maent yn monitro ac yn rheoli perfformiad contractau deintyddol, gan roi mwy o ffocws ar ofal deintyddol o ansawdd uchel (gan gynnwys gwaith atal) a chanlyniadau cleifion.

 

1.2.2.   Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i sut i ddyrannu adnoddau deintyddol er mwyn darparu gofal i'r unigolion a'r grwpiau sydd fwyaf angen gofal deintyddol. Caiff cyfran helaeth o adnoddau'r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol eu gwario ar ddarparu archwiliadau rheolaidd bob 6-9 mis i gleifion y mae eu risg o gael clefyd deintyddol yn isel. Ar hyn o bryd, cynghorir y dylai cleifion sy'n ddeintyddol 'iach' gael archwiliad bob 6 mis, tra bod llawer o bobl sydd angen ac eisiau gofal deintyddol yn methu â’i gael. Mae hyn yn enghraifft o’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal ar waith ac mae'n digwydd am nad yw trefniadau presennol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yn rhoi cymhelliant i ddarparu gofal deintyddol i gleifion a chanddytn anghenion mawr. Mae i hyn oblygiadau i bobl o bob oed gan gynnwys cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Yn 2016/17, roedd 15.5% o blant 12 oed yng Nghymru yn dioddef o bydredd dannedd. Heb waith atal a mynediad at driniaeth effeithiol, mae'r plant hyn mewn perygl o ddod yn genhedlaeth o bobl ifanc yr effeithir yn negyddol ar iechyd eu ceg, ansawdd eu bywydau ac, o bosibl, eu gweithgarwch economaidd gan glefyd deintyddol. Mae angen i'r newidiadau i'r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol ganolbwyntio ar leihau yr annhegwch o ran 'mynediad at wasanaethau deintyddol' ar draws grwpiau economaidd-gymdeithasol a rhoi cymhelliant i ddarparwyr deintyddol roi mwy o flaenoriaeth a gofal o ansawdd uchel i gleifion a chanddynt anghenion mawr.

 

1.2.3.   Mae'r defnydd doethaf o adnoddau gofal iechyd cyhoeddus yn galw am fanteisio i’r eithaf ar sgiliau pob aelod o'r tîm deintyddol, yn hytrach na dibynnu ar ddeintyddion i ddarparu'r holl ofal ataliol a'r driniaeth. Mae'n bwysig dysgu o brofiad rhyngwladol yn ogystal â mentrau cenedlaethol sydd wedi gwneud gwell defnydd o 'gymysgedd sgiliau’[1] wrth i ni ddiwygio'r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yng Nghymru. Mae nifer o wledydd wedi defnyddio sgiliau therapyddion deintyddol i roi gofal deintyddol i blant ac mae model gofal o'r fath wedi cael effaith gadarnhaol o ran cynyddu mynediad at nifer fawr o blant a lleihau nifer yr achosion o bydredd dannedd nad ydynt yn cael eu trin ymysg plant.[2]

 

1.3.        Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG

1.3.1.   Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arbenigedd iechyd deintyddol cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru. Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n cynnal Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru (Polisi Deintyddol), (timau) gwasanaethau deintyddol, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu Rhaglen Diwygo Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG. Sefydlwyd grŵp llywio amlranddeiliaid er mwyn sicrhau bod datblygiad a gwelliant y rhaglen yn cael ei ddylanwadu gan gronfa  o arbenigedd sy’n cynnwys amryfal randdeiliaid ym maes iechyd y geg.

 

1.3.2.   Amcanion presennol Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yw:

         I.        Cynnwys rhanddeiliaid deintyddol allweddol er mwyn datblygu Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG a mabwysiadu model gwella parhaus.

       II.        Sicrhau bod y gwasanaethau deintyddol yn cynnal asesiad o risgiau ac anghenion iechyd y geg cleifion unigol o leiaf unwaith y flwyddyn gyda phecyn cymorth safonedig a defnyddio'r wybodaeth er mwyn:

a.    Deall beth sy'n bwysig i gleifion

b.    Cyfathrebu lefel y risg a'r angen yn effeithiol i gleifion (neu eu gofalwyr) a gweithio gyda'r cleifion er mwyn iddynt ddeall y newidiadau y gallant eu gwneud er mwyn atal clefyd deintyddol.

c.    Cytuno ar ganlyniadau iechyd y geg y mae ar y cleifion eisiau eu cyflawni dros gyfnod o amser neu ar ôl cwrs o ofal deintyddol.

ch. Defnyddio egwyddorion penderfynu ar y cyd i ffurfio cynllun gofal deintyddol ataliol

d.    Monitro newidiadau i 'risg ac angen' cleifion sy'n derbyn gofal parhaol gan y gwasanaeth.

      III.        Gwella’r ddarpariaeth o waith atal a thriniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

     IV.        Cefnogi gweithrediad cyfnodau galw yn ôl deintyddol yn seiliedig ar risg ac angen iechyd y geg

      V.        Cynyddu'r defnydd o gymysgedd sgiliau yng Ngwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yng Nghymru

     VI.        Annog timau clinigol i ddatblygu diwylliant o wella ansawdd parhaus er mwyn sicrhau gwell ansawdd a diogelwch i gleifion

    VII.        Annog timau deintyddol i sefydlu perthnasau gwaith cynhyrchiol gyda gwasanaethau gofal sylfaenol a chymdeithasol

  VIII.        Gwerthuso a deall y newidiadau yn y gweithgareddau allweddol a'r canlyniadau a sefydlu dangosyddion ansawdd er mwyn cyfrannu at welliant parhaus Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG a datblygiad gofal deintyddol sylfaenol.

     IX.        Deall y newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn lleihau annhegwch sy’n gysylltiedig â’r defnydd o ofal deintyddol, a gwella mynediad at wasanaethau deintyddol i unigolion sydd ag angen mawr ond nad ydynt yn gallu/dewis defnyddio gofal deintyddol ar hyn o bryd.

      X.        Cyfrannu at unrhyw newidiadau y mae eu hangen yn y contractau deintyddol cenedlaethol, unrhyw ddeddfau cysylltiedig a rhaglenni perthnasol eraill (e.e. hyfforddi a chynllunio gweithlu) neu systemau sydd ar waith i hwyluso’r gwaith o wella ansawdd parhaus.

 

1.4.        Un o'r gwersi a ddysgwyd yn sgil cyflwyno Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol presennol y GIG ym mis Ebrill 2006 yw bod goblygiadau andwyol na ellir eu rhagweld yn codi yn sgil newidiadau eang syfrdanol cenedlaethol. Dim ond yn y blynyddoedd ar ôl y newid y daw'r canlyniadau hyn i'r amlwg, wrth i batrymau gwaith newydd ddod yn rhan o’r system. Mae hanes o newidiadau cyffredinol yn y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, a llawer ohonynt wedi arwain at ôl-effaith negyddol annisgwyl gan gynnwys effaith ar fynediad a/neu'r math o driniaethau a ddarperir. Mae'n bwysig i Raglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yng Nghymru gael digon o amser i brofi, gwerthuso newidiadau a deall eu heffaith ar wahanol elfennau cydgysylltiedig y system.

 

2.    Sut mae 'arian adfachu' gan y bwrdd iechyd yn cael ei ddefnyddio

2.1.        O dan system Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol presennol y GIG, rhoddir cyfanswm y gwerth contract blynyddol i ddeiliaid contractau deintyddol mewn deuddeg rhandal ac, yn gyfnewid am hynny, mae'n ofynnol iddynt gyrraedd eu targedau o ran yr Unedau o Weithgaredd Deintyddol blynyddol a gontractiwyd. Fel rheol gyffredinol, bydd yn rhaid i ddeintyddfeydd gyrraedd o leiaf 95% o'u targed blynyddol er mwyn osgoi 'adfachu arian'. Mae amryfal resymau pam mae practisau deintyddol yn methu â chyrraedd eu targedau Unedau o Weithgaredd Deintyddol blynyddol. Nid yw cyrraedd y targed yn golygu mynediad da a/neu ofal o ansawdd dda. Rydym wedi amlygu cyfyngiadau system Unedau o Weithgaredd Deintyddol yn yr adran flaenorol a pham mae angen i ni bellhau oddi wrth y ffocws llwyr ar gyflawni Unedau o Weithgaredd Deintyddol.

2.2.        Yn hytrach nag edrych ar 'arian adfachu' gan bractisiau deintyddol ar wahân, mae'n bwysig dadansoddi a dehongli'r gyllideb gofal deintyddol sylfaenol gyffredinol sydd ar gael, gwariant gwirioneddol, tueddiadau gwariant dros y blynyddoedd a thueddiadau yn lefel a thegwch mynediad deintyddol. Mae'n bwysig hefyd deall yr hyn sy'n digwydd i danwariant/'arian adfachu' a ph'un a oes unrhyw ran o gyllid y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol wedi ei ddefnyddio i ddatblygu unrhyw wasanaethau deintyddol eraill, yn enwedig gwasanaethau deintyddol canolraddol ac arbenigol mewn gofal sylfaenol.

3.    Materion yn ymwneud â hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru

3.1.        Ni ellir ystyried datblygiad a gwelliant parhaus Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG ar ei ben ei hun heb waith cynllunio cynhwysfawr o ran y gweithlu deintyddol. Mae angen i Raglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG a’r gwaith o gynllunio gwasanaethau deintyddol integredig lleol o fewn y byrddau iechyd gyd-fynd yn agos â chynllunio a hyfforddi'r gweithlu deintyddol.

 

3.2.        Mae anhawster o ran recriwtio a chadw deintyddion sydd â'r gallu i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn broblem i ddarparwyr deintyddol mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig mewn cymunedau anghysbell a gwledig. Caiff hyn effaith negyddol ar fynediad i wasanaethau deintyddol yn yr ardaloedd hyn. Disgwylir y bydd yr anawsterau hyn yn fwy dwys os bydd y trefniadau ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn cyfyngu ar fewnfudiad deintyddion o'r ardaloedd hyn. Yn 2017, roedd 6,689 o ddeintyddion cymwysedig o Ardal Economaidd Ewropeaidd wedi eu cofrestru gyda Chyngor Deintyddol Cyffredinol y DU. Yn 2012, roedd 15% o ddeintyddion Cymru yn raddedigion o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond roedd cyfran llawer uwch ym Mhowys a Hywel Dda.[3]

 

3.3.        Gwyddom y gallai'r gweithlu deintyddol ehangach, y cyfeirir atynt fel Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol, gyflawni cyfran helaeth o'r gweithgareddau atal a thriniaeth[4] a ddarperir gan ddeintyddion ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai a ddarperir i blant. Mae trefniadau cytundebol deintyddol presennol a'r deddfwriaethau cysylltiedig yn atal a/neu'n gwahardd defnydd llawn o'r cymysgedd sgiliau deintyddol, yn enwedig mewn perthynas â therapyddion deintyddol.

 

 

3.4.        Mae rhai Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a darparwyr Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol wedi rhoi gwell defnydd o therapyddion deintyddol ar brawf yng Nghymru. Mae'r rhaglen genedlaethol, Cynllun Gwên, i wella iechyd y geg a gyflawnir gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol hefyd yn defnyddio sgiliau ychwanegol nyrsys deintyddol er mwyn rhoi triniaethau ataliol. Mae potensial anferth i ddefnyddio sgiliau ychwanegol nyrsys, hylenyddion a therapyddion deintyddol mewn gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, a dylai hyn helpu i wella mynediad at ofal ataliol a gofal deintyddol. Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod practisiau deintyddol sy’n cynnwys therapydd deintyddol yn darparu dull o gyflwyno gofal iechyd y geg sy'n canolbwyntio’n fwy ar waith atal. Gwelwyd fod y deintyddion yn cyflawni'r gwaith mwy cymhleth a bod y cleifion yr un mor hapus yn gweld deintydd neu therapydd deintyddol.[5]

 

3.5.        Ochr yn ochr â'r newidiadau cytundebol a deddfwriaethol sy'n angenrheidiol er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy'n atal y defnydd llawn o'r 'cymysgedd sgiliau' yn y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, mae angen sicrhau cynllun ar gyfer hyfforddi mwy o Weithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol medrus iawn yng Nghymru. Mae angen i GIG Cymru a chyrff sy'n gyfrifol am addysg hefyd sicrhau mynediad at hyfforddiant sgiliau ychwanegol i Weithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol presennol yn unol â'r newidiadau a gynllunnir ar gyfer y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a'r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol. Mae angen parhau hefyd i gyfathrebu gyda chleifion a'r cyhoedd ynglŷn â swyddogaeth Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol o fewn y tîm deintyddol, yn enwedig gan fod eu sgiliau'n cael eu defnyddio'n ehangach o fewn y system ddeintyddol.

 

3.6.        Bydd angen i fyrddau iechyd fod yn ddyfeisgar wrth gynllunio gofal deintyddol i'w poblogaeth leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae rhai byrddau iechyd, lle nad oedd modd iddynt ddenu darparwyr y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, wedi profi model ymarferwyr cyflogedig. Efallai fod angen cymhelliant ychwanegol er mwyn recriwtio a chadw deintyddion a Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol yn y rhannau o Gymru lle mae angen datblygu gwasanaethau deintyddol a/neu lle mae recriwtio a chadw wedi bod yn broblem. Dylid edrych ar y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn denu mwy o fyfyrwyr lleol i'r cyrsiau hyfforddi deintyddol yng Nghymru ac er mwyn eu cadw ar ôl iddynt ddilyn hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig.

 

3.7.        Mae angen cynllunio'r gweithlu ar gyfer deintyddion arbenigol a deintyddion â sgiliau uwch. Dylai cyllid er mwyn hyfforddi deintyddion arbenigol a deintyddion â sgiliau uwch gyd-fynd â'r gwaith lleol a chenedlaethol o gynllunio'r gweithlu deintyddol. Mae angen i'r cynllunio hwn gynnwys recriwtio a chadw arbenigwyr hynod gymwys sydd wedi eu hyfforddi'n lleol. Golyga'r newid yn y boblogaeth (oedolion hŷn sydd ag anghenion deintyddol a meddygol cymhleth) bod angen i'r gweithlu arbenigol hefyd weithio gyda'i gilydd mewn tîm gan ddefnyddio model cymysgedd sgiliau.

 

3.8.        Mae angen hefyd i'r gwasanaethau arbenigol, a arweinir gan ymgynghorwyr ac a ddarperir ar hyn o bryd gan leoliadau gofal eilaidd, weithio'n agosach â gofal deintyddol sylfaenol fel bod cleifion yn derbyn gofal di-dor wrth dderbyn gwasanaethau gan bractis deintyddol cyffredinol ac arbenigwyr/ymgynghorwyr mewn gofal eilaidd. Mae angen i recriwtio (a hyfforddi) deintyddion arbenigol mewn rhai arbenigeddau penodol fod yn flaenoriaeth uchel. Rydym yn deall bod swyddi allweddol sy’n wag ar hyn o bryd (e.e. Ymgynghorydd Deintyddiaeth Adferol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Arbenigwr mewn Deintyddiaeth Bediatrig i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan).

 

4.    Darpariaeth gwasanaeth orthodonteg

4.1.        Mae'n bwysig ystyried darpariaeth a'r defnydd o wasanaethau deintyddol canolraddol ac arbenigol/ymgynghorol (gan gynnwys orthodonteg) ochr yn ochr â darpariaeth y gofal deintyddol brys a rheolaidd sydd ar gael i boblogaeth Cymru. Mae ystyried y system ddeintyddol gyfan a chynllunio integredig ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol yn bwysig er mwyn osgoi gwaith cynllunio a darpariaeth dameidiog ym maes arbenigedd ddeintyddol.

 

4.2.        Mae blaenoriaethu'n realiti mewn system sy'n brin o adnoddau ac mae cynllunio integredig yn bwysig er mwyn gwella gwerth gofal deintyddol.

 

4.3.        Dyma rai o'r cwestiynau i'w hystyried:

4.3.1.   Beth yw lefel y mynediad at ofal deintyddol brys (gan gynnwys y Tu Allan i Oriau) a gofal deintyddol cyffredinol rheolaidd i blant ac oedolion, gan gynnwys y rhai sy'n dioddef o orbryder a ffobia deintyddol?

4.3.2.   Beth yw'r amrywiad yn lefel y mynediad at ddeintyddiaeth (gofal deintyddol brys a rheolaidd) ar draws grwpiau economaidd-gymdeithasol a grwpiau sy'n agored i niwed yn y gymdeithas (Deddf Gofal Gwrthgyfartal)?

4.3.3.   Beth yw darpariaeth gwasanaethau deintyddol canolraddol (a ddarperir gan ddeintyddion sydd â sgiliau uwch mewn gwahanol arbenigeddau clinigol) ac arbenigol (e.e. deintyddiaeth bediatrig, endodonteg, periodonteg, prosthodonteg, orthodonteg, meddyginiaeth y geg, llawdriniaeth y geg ac ati) ym mhob bwrdd iechyd ac a yw'n bodloni anghenion y boblogaeth?

4.3.4.   Beth yw'r tueddiadau o ran y ffordd y defnyddir y gwasanaeth (gofal sylfaenol ac arbenigol) ym mhob bwrdd iechyd?

4.3.5.   Pa ganlyniadau (a adroddir gan gleifion a chanlyniadau chlinigol) y mae’r gwasanaethau deintyddol yn eu cyflawni i boblogaeth y cleifion y maent yn eu gwasanaethu a beth yw'r amrywiad yng nghanlyniadau'r cleifion rhwng y byrddau iechyd?

 

4.4.        Darperir cyfran helaethaf o driniaeth orthodonteg y GIG i blant 12-17 mlwydd oed. Dylid ystyried asesiad o'r angen a darpariaeth gwasanaethau orthodonteg fel rhan o'r gwaith cyffredinol o gynllunio gwasanaethau deintyddol, ac yng nghyd-destun y lefel uchel o bydredd dannedd ymysg plant Cymru. Yn 2016/17, roedd gan bron i 30% o'r plant 12 oed o leiaf un dant parhaol a oedd wedi pydru, wedi ei dynnu (oherwydd pydredd dannedd) neu wedi ei lenwi, sy'n dangos bod cyfleoedd atal neu ofal deintyddol wedi eu colli. Dylai mynediad at ofal deintyddol ataliol ac adferol i'r plant hyn fod yn flaenoriaeth.  

 

4.5.        Mae meini prawf derbyn eglur sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer triniaeth orthodonteg (yn seiliedig ar Fynegai yr Angen am Driniaeth Orthodontig) a safonau y cytunnir arnynt mewn perthynas â chanlyniadau triniaethau. Gall amrywiol ffactorau effeithio ar yr amser aros am driniaeth orthodonteg e.e. trin camlinelliad cymhedrol (h.y. y rhai nad ydynt yn gymwys i gael y driniaeth orthodontig gan y GIG), atgyfeiriadau amhriodol ac a gamgyfeiriwyd, atgyfeirio plentyn at amryfal ddarparwyr gwasanaethau orthodonteg, triniaethau orthodonteg ailadroddus, trosglwyddo gofal orthodonteg ar ganol triniaeth o un practis i bractis arall ac ati. Mae amseroedd aros lleol ar gyfer triniaeth orthodonteg mewn gofal sylfaenol hefyd yn ddibynnol ar feini prawf derbyn y gwasanaethau gofal orthodonteg a’r gwasanaethau a arweinir gan ymgynghorwyr ac a ddarperir mewn ysbytai.

 

4.6.        Nid yw’r gwasanaethau orthodonteg ar hyn o bryd yn/yn gallu darparu gwybodaeth ddibynadwy am:

·         nifer y cleifion sy’n aros am asesiad,

·         nifer y plant sydd wedi eu hasesu, sy’n gymwys i gael triniaeth gan y GIG  ac yn cael eu hysgogi i ymgymryd â thriniaeth orthodonteg faith,

·         cyfnod aros rhwng atgyfeirio ac asesu a

·         cyfnod aros rhwng asesu a ‘dechrau triniaeth’

·         rhesymau dros beidio â gorffen cyrsiau triniaeth orthodonteg.

 

4.7.        Mae’n bwysig bod Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol yn cael mynediad at y wybodaeth a amlinellwyd uchod fel bod modd iddynt gael trafodaeth wybodus gyda’r rhieni (a’r plant) ynglŷn â’r amrywiad yng nghyfnodau aros darparwyr gwasanaethau, ochr yn ochr â gwybodaeth ynglŷn â statws presennol iechyd y geg, meini prawf cymhwysedd ar gyfer triniaeth y GIG, risgiau a manteision triniaeth orthodonteg, argaeledd gwasanaethau orthodonteg lleol a’r amser teithio cysylltiedig.

 

4.8.        Canfu astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd yn Ne-ddwyrain Cymru fod gwasanaethau gofal orthodonteg arbenigol yn yr ardal yn arwain yn gyffredinol at ganlyniadau clinigol da. Fodd bynnag, ni ddylai 4% o’r cleifion a gafodd driniaeth orthodonteg yn sampl yr astudiaeth fod wedi derbyn triniaeth y GIG yn seiliedig ar feini prawf triniaeth orthodonteg y GIG. Mae rhai plant yn mynd drwy ail gwrs o driniaeth tra bod eraill yn aros am y cwrs cyntaf.

 

4.9.        Ni ddylai fod yn rhaid i’r system ddibynnu ar archwiliadau/ astudiaethau ad hoc er mwyn deall y canlyniadau a gyflawnir gan wasanaethau deintyddol. Dylai’r gwaith o gasglu gwybodaeth am ganlyniadau triniaethau (clinigol a chanlyniadau a gofnodir gan y cleifion) gael ei integreiddio i’r system wybodaeth bresennol. Gellid addasu’r ffurflenni hawlio a gyflwynir gan wasanaethau orthodontig y GIG er mwyn casglu gwybodaeth am y canlyniadau clinigol a gyflawnir gan ddarparwyr y gwasanaethau.

 

4.10.     Mae system E-atgyfeirio ar gyfer deintyddiaeth wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi ei chaffael yn ddiweddar gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Pan fydd byrddau iechyd yn rhoi’r system e-atgyfeirio ar waith yn gyfan gwbl, disgwylir y bydd yn help i fyrddau iechyd gael gwybodaeth er mwyn gwella mewn perthynas â nifer o’r sialensiau a amlinellwyd uchod. Dylai’r system wybodaeth E-atgyfeirio gael ei chynllunio i roi gwybodaeth ddibynadwy i rieni/cleifion, atgyfeirio ymarferyddion, darparwyr gwasanaethau arbenigol. Gellid dadansoddi’r data a gynhyrchir drwy’r system hon hefyd er mwyn deall tegwch yn y defnydd o wasanaethau deintyddol arbenigol, profiad cleifion, canlyniadau, ac i adnabod meysydd posibl i’w gwella ar gyfer pob gwasanaeth/bwrdd iechyd.

 

4.11.     Bydd angen newid contractau orthodonteg cenedlaethol a chomisiynu mewn modd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a rhoi pwyslais ar ddefnyddio mwy ar y cymysgedd sgiliau (e.e. swyddogaeth therapyddion orthodontig) er mwyn gwella gwerth gofal orthodonteg. Mae angen ystyried cyflenwad y therapyddion orthodonteg yn y gweithlu fel rhan o’r gwaith o gynllunio’r gweithlu deintyddol ehangach.

 

5.    Effeithiolrwydd rhaglenni gwella iechyd y geg lleol a chenedlaethol i blant a phobl ifanc.

5.1.        Mae’r Rhaglen Arolygu Ddeintyddol yn casglu gwybodaeth ynglŷn ag iechyd deintyddol plant pump a deuddeng mlwydd oed, fel rhan o’r drefn reolaidd o arolygon deintyddol.[6] Er bod arolygon diweddar wedi dangos bod iechyd deintyddol plant yng Nghymru yn gwella (Ffig 1 a 2), mae pydredd dannedd yn dal yn gyffredin iawn. Dangosodd canlyniadau arolwg cenedlaethol bod 34% (2015/16) o blant pump oed a 29.6% (2016/17) o blant deuddeg oed yng Nghymru wedi cael profiad o bydredd dannedd.[7]

 

Ffigur 1: Tuedd o ran profiad o bydredd dannedd ymysg plant pum mlwydd oed (blwyddyn 1 yr ysgol) yng Nghymru.

Caries in 5 year olds is on a downward trend since 2006/7 when 47.6% of children in Wales had at least one tooth affected by decay. By 2015/16 this had fallen to 34.2%.

 

 

 

 

 

 

Ffigur 2: Tuedd o ran profiad pydredd dannedd ymysg plant 12 oed yng Nghymru.

 

5.2.            Er y dylai ymyriadau a gofal deintyddol ataliol gan weithwyr deintyddol proffesiynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn rhan ganolog o Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol, bydd yn anodd cyflawni gwelliannau ar raddfa fawr i iechyd ceg poblogaeth Cymru heb ymyriadau iechyd cyhoeddus ar lefel y boblogaeth.

 

5.3.        Mae’r Cynllun Gwên yn rhaglen gwella iechyd y geg genedlaethol wedi’i thargedu sy’n cyflwyno ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth i blant ifanc (0-5) yng Nghymru. Yn ei hanfod, mae’n rhaglen sy’n dod â dannedd plant i gysylltiad â fflworid drwy frwsio dannedd dan oruchwyliaeth a defnyddio fflworid cryfder uchel (farnais fflworid) mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd mewn ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru. Dengys data fod plant sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o gael pydredd dannedd, ond mai hwy hefyd sydd leiaf tebygol o fynychu gwasanaethau deintyddol rheolaidd.

 

 

5.4.        Y boblogaeth hon yw poblogaeth darged y Cynllun Gwên. Mae’r cynllun yn gweithredu fel ‘rhwyd ddiogelwch’ i’r plant hyn drwy gyflwyno ymyriadau ataliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth e.e. lleoliadau gwasanaethau deintyddol traddodiadol yn rhoi’r rhaglen farnais fflworid ar waith fesul y tu allan i leoliadau gwasanaethau deintyddol traddodiadol er mwyn lleihau anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag iechyd y geg a lleihau effaith y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal.

 

5.5.        Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau â’r rhaglen Cynllun Gwên (Ymateb y Gwasanaethau Deintyddol ac Iechyd y Geg, Cymru Iachach) ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi parhad y rhaglen yn llwyr a pharheir i ddarparu arbenigedd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus i’r rhaglen. Yn y blynyddoedd ers i’r Cynllun Gwên gael ei dreialu (fe’i rhoddwyd ar waith fesul cam yn 2010/11), mae’r achosion o bydredd dannedd ymysg plant sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd wedi lleihau ym mhob cwintel amddifadedd ac nid yw’r anghydraddoldeb yng nghyffredinolrwydd pydredd  dannedd wedi gwaethygu. Mae’n werth cofio y bydd manteision ymyriadau iechyd cyhoeddus fel hyn yn cynyddu’n raddol wrth barhau i’w gweithredu. Bydd effaith y Cynllun Gwên ar iechyd dannedd plant yn parhau i gael ei fonitro drwy raglen oruchwyliaeth ddeintyddol wedi’i chynllunio.

 

 

5.6.        Mae graddiant cymdeithasol yn dal i fodoli o ran y profiad o bydredd dannedd yn ystod plentyndod, gyda 42.2% o’r plant 5 oed yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yn dioddef o bydredd dannedd, o gymharu â 22.3% o blant 5 oed yn yr ardaloedd mwyaf cefnog. Yn 2013/14, roedd 20.2% o blant tair oed yn y cwintel o amddifadedd mwyaf wedi cael profiad o bydredd dannedd. Mae’r plant hyn o ardaloedd o amddifadedd dan anfantais bellach gan fod llai o fynediad i wasanaethau deintyddol (oherwydd nifer o rwystrau posibl). Rhaid i gyllideb y Cynllun Gwên barhau i gael ei chlustnodi a rhaid canolbwyntio ar dargedu plant sydd â risg uchel o bydredd dannedd a hybu iechyd y geg i bob plentyn drwy wasanaeth ymwelwyr iechyd a gwasanaethau/rhaglenni eraill sydd wedi eu targedu at yr un boblogaeth.

 

 

5.7.        Mae pydredd dannedd yn gysylltiedig hefyd â phenderfynyddion iechyd cymdeithasol a masnachol. O’r herwydd, mae llwyddiant ymdrechion ataliol a gyflwynir drwy’r gwasanaethau deintyddol a rhaglenni iechyd y geg megis y Cynllun Gwên yn ddibynnol ar benderfynyddion iechyd cymdeithasol a masnachol. Mewn termau syml, gallai ymdrechion ataliol y gwasanaethau deintyddol a rhaglen y Cynllun Gwên gael eu negyddu gan lefel uchel y siwgr sy’n cael ei fwyta a’i yfed (sydd hefyd yn effeithio ar ordewdra ymysg plant yng Nghymru).

 

5.8.        Er mwyn gwella iechyd y geg ymysg plant, bydd angen rhaglen eang o gamau hefyd er mwyn gostwng lefel y siwgr y mae’r boblogaeth yn ei fwyta:

·         lleihau’r siwgr rhydd sydd mewn bwyd a diod, gan gynnwys defnyddio trethi ac ardollau;

·         cyfyngu ar farchnata a hyrwyddo cynhyrchion sy’n cynnwys siwgr;

·         lleihau’r gwerthiant o fwydydd a diodydd sy’n cynnwys siwgr;

·         cynghori, addysgu a helpu pobl i fwyta llai o siwgr;

·         lleihau faint o siwgr a gynhyrchir.

 

5.9.        Bydd angen i’r Byrddau Iechyd, drwy weithio â’u partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sicrhau bod ganddynt raglen gynhwysfawr er mwyn lleihau’r siwgr sy’n cael ei fwyta yn eu hardal. Dylid cymryd rhai camau brys ar y mater hwn, gan gychwyn gydag ymroddiad gan y partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y bydd gwerthu diodydd a bwydydd afiach, llawn siwgr yn cael ei wahardd/leihau yn eu hadeiladau (gan gynnwys bwyd sydd â lefel uchel o halen a braster dirlawn) a mabwysiadu polisïau arlwyo bwyd iach a pholisïau gweithle iach.

 

5.10.     Mae tystiolaeth bod pobl o gymunedau o amddifadedd yn y DU yn bwyta mwy o siwgr. Mae lleihau faint o siwgr sy’n cael ei fwyta felly’n rhan allweddol o leihau’r anghydraddoldebau yn iechyd y geg rhwng gwahanol gymunedau a grwpiau poblogaeth. Nid oes gymaint o ddewisiadau bwyd iach i’r rhai sy’n dioddef o dlodi bwyd oherwydd eu pris uwch a’r nifer fawr o gynigion arbennig ar fwydydd llawn siwgr. Mae hyn yn arwain at fwy o wahaniaeth ym mhris bwyd iach a bwyd sy’n llawn siwgr[8]. Bydd angen polisïau gan y Llywodraeth (Llywodraeth Cymru a’r DU) a deddfwriaethau priodol er mwyn lleihau faint o siwgr sy’n cael ei fwyta er mwyn sicrhau nad yw’r siwgr rhydd yn cyfrif am fwy na 5% o gyfanswm egni dietegol grwpiau oedran o 2 oed i fyny, yn unol  ag argymhelliad y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg.

 

 



[1] Mae 'cymysgedd sgiliau' yn derm sy'n cael ei ddefnyddio yn y maes deintyddiaeth i ddisgrifio model gofal sy'n golygu bod y tîm clinigol cyfan yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyflwyno gofal deintyddol.

[2] Nash et. al. (2014). A review of the global literature on dental therapists, Community Dentistry Oral Epidemiology, 42;1-10.

[3] Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, Dadansoddiad o’r gweithlu deintyddol, 2012

[4] Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, Scope of Practice, Medi 2013.

[5] Barnes et.al. (2018), General Dental Practices with and without a dental therapist: a survey of appointment activities and patient satisfaction with care, The British Dental Journal, 225;53-58. 

[6] Mae canlyniadau’r arolygon hyn ar gael yn http://www.cardiff.ac.uk/cy/research/explore/research-units/welsh-oral-health-information-unit

[7] Profiad o bydredd yn y dannedd = O leiaf un dant yn cynnwys pydredd amlwg neu’n cynnwys llenwad neu wedi ei golli (ei dynnu allan oherwydd pydredd yn y dannedd)

[8] Datganiad sefyllfa Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol ar y camau a argymhellir er mwyn gostwng faint o siwgr rhydd a fwytir a gwella iechyd y geg.